Amgueddfa Dinbych
Mae Amgueddfa Dinbych yn ganolfan dreftadaeth bwysig sy’n adrodd hanes cyfoethog y dref a’i hardal gyfagos dros ganrifoedd. Wedi’i lleoli mewn adeilad hanesyddol yng nghanol y dref, mae’r amgueddfa yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Dinbych. Ceir casgliadau amrywiol o arteffactau, ffotograffau, mapiau a dogfennau sy’n dangos datblygiad y dref o’r Oesoedd Canol hyd at yr ugeinfed ganrif. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys gwybodaeth am Gastell Dinbych, y farchnad hanesyddol, crefydd, addysg, a bywyd bob dydd pobl leol. Rhoddir sylw hefyd i ddiwydiannau traddodiadol, crefftau, a straeon unigolion a fu’n byw ac yn gweithio yn yr ardal. Mae’r amgueddfa yn lle croesawgar i ymwelwyr o bob oed, gyda deunyddiau addysgol a gweithgareddau rhyngweithiol sy’n cefnogi dysgu. Cynhelir digwyddiadau cymunedol, darlithoedd ac arddangosfeydd dros dro yn rheolaidd, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng y gorffennol a’r presennol. Trwy gadw a rhannu hanes lleol, mae Amgueddfa Dinbych yn cyfrannu’n sylweddol at hunaniaeth a balchder y gymuned, ac yn annog dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
Hanes yr amgueddfa
Eleni mae Amgueddfa Dinbych ac Archif Gymunedol Dinbych yn cymryd cam mawr arall tuag at ddod yn rhan o gymuned Dinbych.
Mae arnom angen cymorth a chefnogaeth trigolion y dref i wneud hyn yn llwyddiant ysgubol.
“Heb orffennol nid oes dyfodol.”
Nid yw hanes yn apelio at bawb; mae’n well gan rhai canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol.
Fodd bynnag, mae hanes yn helpu pobl hŷn gydag atgofion ac i hel atgofion, a all roi llawer o bleser iddynt a helpu gyda gweithrediad gwybyddol.
Mae hefyd yn helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i uniaethu â’u cymuned, dod i’w adnabod yn well a dod yn fwy ymglymedig. Y fantais ychwanegol yw, os yw’n ddigon diddorol y bydd yn denu ymwelwyr a thwristiaid, a fydd o gymorth mawr i’r economi.
Mae Dinbych yn un o’r trefi pwysicaf a mwyaf hanesyddol yng Ngogledd Cymru gyda’i hanes yn mynd yn ôl canrifoedd lawer. Dyma pam ei bod mor bwysig fod gan y dref amgueddfa a all olrhain stori Dinbych i fyny at ble rydym yn awr.
Mae'r syniad o gael amgueddfa yn Ninbych ymhell o fod yn newydd gan fod pobl wedi bod yn ceisio sefydlu un yma ers dros 50 mlynedd.
Sefydlwyd amgueddfa / arddangosfa fach yn Llyfrgell Dinbych, ond penderfynodd Cyngor Sir Dinbych tua 2001 na ellid ei defnyddio mwyach fel amgueddfa. Ffurfiwyd pwyllgor yn fuan wedyn ar y cyd â chyngor Tref Dinbych i geisio dod o hyd i leoliad arall. Ar ôl sawl cyfarfod dros nifer o flynyddoedd, cytunwyd yn y pen draw, pan benderfynodd y gwasanaeth llysoedd nad oedd angen hen ysgol Frongoch mwyach, y byddai cyngor y dref yn prynu’r adeilad a'i phrydlesu i grŵp Amgueddfa Dinbych.
Symudodd grŵp Amgueddfa Dinbych i mewn ym mis Rhagfyr 2013, a’r Archif Gymunedol Dinbych a ffurfiwyd yn 2009 gan gyngor y dref yn fuan ar ôl hynny. Ers hynny mae’r archif a’r amgueddfa wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal sawl arddangosfa o ddiddordeb lleol.
Mae llawer o wrthrychau a roddwyd gan bobl wedi cael eu casglu gan yr amgueddfa, a’r archif wedi casglu miloedd o ffotograffau, dogfennau, hen ffilmiau a sain ac wedi cyhoeddi sawl llyfr a llyfryn.
Er y gallai'r hen ysgol fod wedi bod yn addas fel amgueddfa mewn sawl ffordd, yn anffodus roedd llawer o anfanteision yn yr adeilad a oedd yn ei gwneud hi'n anodd iawn ei haddasu er mwyn cadw hen eitemau a dogfennau ac ati oherwydd bod yr amgylchedd yn llaith ac yn ansefydlog iawn ac yn newidiol. Mae'n hen adeilad sy'n dyddio'n ôl i 1877 ac roedd angen gwelliant, addasiad ac atgyweiriad helaeth arno i'w ddod i fyny i safon amgueddfa, a’r gost yn afresymol. Gwnaed tair ymgais i gael cyllid grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ond aflwyddiannus bu’r ceisiadau.
Felly, tua 2018 penderfynodd y Bwrdd i ymuno â phrosiect Mind Dyffryn Clwyd i addasu adeilad yr Hen Farchnad Fenyn / Coleg yn Llain y Capel fel canolfan ar gyfer lles, diwylliant a threftadaeth. Gydag ymyrraeth y pandemig ac anhawster codi digon o grantiau cyllidol, cafodd y prosiect ei ohirio am bron i ddwy flynedd a phan ailddechreuodd roedd y costau bron wedi dyblu. Dechreuodd y gwaith ar adnewyddu'r adeilad cyn y Nadolig 2023 a gorffennwyd yn 2025.
Mae’r amgueddfa yn cael ei rheoli gan Fwrdd a Phwyllgor Rheoli, mae'n gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig ac ar hyn o bryd yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Rheolwyd yr Archif Gymunedol gan y cyngor tref tan yn ddiweddar pan ddaeth yn annibynnol, ac mae'r ddau sefydliad yn bwriadu uno eleni i'w gwneud yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy.
Mae ymweliadau addysgol a phrosiectau wedi'u cynnal gydag ysgolion a sefydliadau eraill ac mae sgyrsiau rheolaidd am hanes Dinbych wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae arddangosfeydd blynyddol yn Sioe Dinbych, Drysau Agored ac mewn digwyddiadau eraill wedi'u cynnal gan y grŵp archif.
Rydym bellach yn symud ymlaen i gam nesaf y daith gyffrous hon.
Ionawr 2026
Mae Amgueddfa Dinbych yn aelodau o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru
Rhif cwmni cyfyngedig drwy warant 08179609
Rhif elusen 1152905
12 Ymddiriedolwr
Philip Williams
Meira Jones
Gethin Clwyd Jones
Medwyn Jones
David Wynn Davies
Anthony Gray
Carys Harries
Richard Snelson
Vesi Jones
Clwyd Wynne
Wendy Grey Lloyd
Medwyn Ffrancon Williams











